Mae cyflenwyr Meta yn cynrychioli cyfuniad unigryw o ddoniau a chymwysterau sy'n ein galluogi i gynnig amrywiaeth o wasanaethau proffesiynol a chynhwysfawr. Cymraeg yw mamiaith pob un ohonyn nhw, ac mae ganddyn nhw wybodaeth arbenigol a chefndiroedd mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau. Ceir cyfoeth o brofiad yn hanes gyrfa amrywiol y cyfieithwyr, ac mae eu sgiliau wedi bod yn amhrisiadwy i gleientiaid dros y blynyddoedd.
Mae'r staff sy'n gyfrifol am y copi terfynol yn aelodau o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, sef y corff sy'n rheoleiddio safonau yn y diwydiant cyfieithu.
Rydym yn parchu cyfrinachedd bob amser, felly mae pob un o'r cyfieithwyr a'r gweinyddwyr yn llofnodi cytundeb cyfrinachedd, ac mae mesurau diogelwch ar waith i sicrhau bod dogfennau'n cael eu cadw dan amodau priodol bob amser.
Mae ein Prif Gyfieithydd ar gael i drafod dyddiadau cwblhau, newidiadau ac unrhyw faterion eraill sy'n ymwneud â chynnydd gwaith penodol.