Croeso i Cwmni Cyfieithu Meta
Mae META yn un o gwmnïau cyfieithu mwyaf blaenllaw Cymru, yn arbenigo mewn cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg. Sefydlwyd y cwmni ym 1995, ac mae gennym lond gwlad o brofiad sy'n ein galluogi i ddarparu gwasanaeth proffesiynol a dibynadwy i unigolion a sefydliadau ledled Cymru a'r DU (a thu hwnt).
Rydym yn deall pwysigrwydd cynhyrchu cyfieithiadau o safon uchel i'n cwsmeriaid ac mae cymwysterau a phrofiad ein cyfieithwyr yn adlewyrchu hyn.
Mae'r wefan hon yn darparu cipolwg ar ein cwmni ac amrywiaeth y gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu. Mae croeso ichi gysylltu â ni os oes angen mwy o wybodaeth arnoch.